blog

sut rhoddodd paned gyda gofalwr hyder i Nicola i faethu

Gall maethu deimlo fel cam mawr ac yn aml iawn, gwybod lle i ddechrau yw’r rhan anoddaf. Dyna pam y gwnaethom ni ddechrau Paned gyda Gofalwr yn Sir y Fflint.

Mae’n syml, yn gyfeillgar ac yn anffurfiol. Gall unrhyw un sy’n chwilfrydig am faethu ddod i gyfarfod un o’n gofalwyr profiadol am sgwrs un-i-un hamddenol dros baned. ’Does dim cyflwyniadau na phwysau, dim ond cyfle i ofyn cwestiynau, clywed profiadau gonest, a chael ymdeimlad go iawn o sut beth yw maethu o ddydd i ddydd.

i Nicola, cael paned gyda gofalwr oedd y peth wnaeth ei helpu hi i newid o feddwl am faethu i gredu y gallai ei wneud.

“Cyn i mi fynd, roedd gen i feddwl agored iawn am gyfarfod efo gofalwr maeth, ond roedd ’na nerfau hefyd, heb os. Roeddwn i’n poeni y gallai fy mhrofiadau bywyd effeithio ar fy ngallu i faethu. Fe wnaeth siarad efo rhywun oedd yn gwneud y rôl yn barod wneud cymaint o wahaniaeth, gan eu bod nhw’n gallu egluro’r broses yn iawn a rhannu straeon go iawn. Fe wnaeth fy helpu i weld y gallwn i, a dweud y gwir, fod yn ofalwr maeth da.”

roedd cyfarfod mewn sefyllfa hamddenol, anffurfiol wedi helpu Nicola i deimlo’n gyfforddus o’r cychwyn cyntaf.

“Er bod y gweithwyr proffesiynol i gyd yn gyfeillgar iawn, roeddwn i wir yn gwerthfawrogi cael siarad efo gofalwr maeth fel y cam cyntaf. Roedd yn teimlo’n llawer mwy rhwydd ac anffurfiol. ’Doeddwn i ddim yn mynd i mewn i swyddfa. Fe allwn i ddewis y man cyfarfod, ac roedd wedi creu awyrgylch braf iawn lle gallwn i fod yn fi fy hun yn llwyr.”

fe wnaeth clywed am faethu mewn ffordd onest, go iawn helpu Nicola i drafod yn agored a dechrau herio ei rhagdybiaethau ei hun.

“Buom ni’n siarad am fywyd bob dydd, ac roedd mor hamddenol a rhwydd. Fe wnaeth hynny wneud i mi sôn yn agored am fwy a mwy. Roedden nhw’n fy annog i’w dweud hi fel y mae hi, ac roedd hynny’n help i mi weithio drwy rai o’r syniadau oedd gen i yn fy mhen am faethu. Pethau fel bod yn sengl neu’r oed ydw i. Roeddwn i wedi meddwl am y rheiny fel rhwystrau, ond dechreuais sylweddoli nad oedden nhw’n fy atal i o gwbl. ’Doedd fy mhrofiad bywyd i ddim yn rhywbeth negyddol, ond yn rhywbeth y gallwn ei gynnig wrth faethu.”

ar ôl y cyfarfod cyntaf hwnnw, roedd Nicola yn teimlo’n barod i gymryd y cam nesaf. Erbyn hyn, mae hi’n ofalwr maeth cymeradwy sy’n darparu cartref diogel, llawn cariad i blant yn ei chymuned leol.

“A dweud y gwir, rydw i’n ’difaru peidio gwneud hyn flynyddoedd yn ôl. Wrth edrych yn ôl, rydw i’n gallu gweld faint mae fy mhrofiadau bywyd wedi helpu i fy ngwneud i’r gofalwr maeth ydw i. Mae wedi bod yn beth mor gadarnhaol – mae agor eich cartref a’ch calon i blentyn wir yn newid eich bywyd.”

mae Nicola bellach yn rhan o glwstwr Mockingbird, lle mae gofalwyr maeth yn cefnogi’r naill a’r llall fel teulu estynedig.

“Rydw i’n rhan o glwstwr Mockingbird ac allwn i ddim bod yn fwy bodlon. Mae’r rhwydwaith cefnogi’n arbennig. Mae’n teimlo fel un teulu mawr o’ch amgylch, a dw i’n meddwl y byddwn i ar goll heb y rheiny ar fy nhaith faethu. O’r cychwyn cyntaf, roedd popeth yn teimlo’n eglur ac yn gefnogol, ac fe wnaeth hynny ddechrau wrth gael Paned gyda Gofalwr. Fe wnaeth y sesiwn honno i mi deimlo’n gyfforddus ac fe roddodd hyder i mi fwrw ymlaen. Mae dylanwad y cyswllt cyntaf hwnnw ar bopeth sydd wedi dilyn.”

wrth edrych yn ôl, mae Nicola yn sylweddoli pa mor bwysig oedd y sgwrs gyntaf honno.

“Braf iawn oedd cael cyfarfod rhywun sy’n ei wneud bob dydd ac oedd yn gallu siarad yn onest am faethu – y cyfnodau da a drwg. Dw i’n meddwl fy mod wedi disgwyl rhywbeth llawer mwy ffurfiol, ond roedd yn teimlo’n naturiol ac yn gyfforddus. Gallwn ofyn unrhyw beth, ac roedd hynny’n gwneud gwahaniaeth mawr.”

mae ei neges i unrhyw un sy’n ystyried maethu’n syml:

“Os ydych chi’n meddwl am y peth, fe fyddwn i’n awgrymu’n gryf i chi gychwyn drwy fynd i Paned gyda Gofalwr. Fe roddodd yr hyder i mi symud ymlaen ac fe wnaeth fy helpu i wneud y cysylltiadau cyntaf hynny cyn i mi hyd yn oed ddechrau fy siwrnai. Mae’n hamddenol, yn gyfforddus ac rydych chi’n teimlo bod rhywun yn gwrando arnoch chi, a chithau’n gallu gwrando hefyd. Byddwn i’n dweud wrthoch chi am fynd amdani, oherwydd mae maethu wir yn gallu newid eich bywyd.”

ychwanegodd Charley, Swyddog Marchnata a Recriwtio ar gyfer Maethu Cymru Sir y Fflint:

“Mae Paned a Sgwrs wedi bod yn drobwynt go iawn. Mae pobl yn cael eistedd gyda gofalwr maeth, clywed eu profiadau gonest ac mae hynny’n rhoi hyder iddynt wneud penderfyniad cytbwys. Rydw i wedi eu gweld yn mynd o fod yn ansicr iawn i fod yn llawn cyffro, gan wybod eu bod yn gwneud y penderfyniad cywir ar gyfer eu dyfodol nhw a’u teulu.”

allai maethu fod yn rhan o’ch pennod nesaf chi?

Weithiau, mae’r penderfyniadau mwyaf yn dechrau gyda’r sgyrsiau lleiaf. Efallai mai Paned gyda Gofalwr yw’r cam cyntaf i chi hefyd – ffordd braf o gyfarfod rhywun sy’n deall y siwrnai a chlywed sut beth yw maethu mewn gwirionedd.

Cliciwch yma i drefnu eich Paned gyda Gofalwr.

Story Time

Stories From Our Carers

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch