“byddwn i wrth fy modd yn maethu, ond…”
Mae hyn yn rhywbeth rydyn ni’n aml yn ei glywed yma yn Sir y Fflint pan rydyn ni allan yn y gymuned.
Mae’n hawdd diystyru eich hun cyn i chi ddarganfod beth mae maethu yn ei olygu mewn gwirionedd, felly gwnaethom ofyn i ofalwyr maeth o bob rhan o Ogledd Cymru, gan gynnwys ein Tom ein hunain, rannu eu profiadau go iawn.
gallwch gyflawni eich nodau ar ôl tyfu i fyny mewn gofal maeth

Magwyd Tom, o Sir y Fflint, mewn gofal maeth ac mae bellach yn ofalwr maeth ei hun, gan gydbwyso gofal maeth seibiant byr efo gweithio’n llawn amser a magu ei blant ei hun. Dywedodd:
“Nid yw tyfu i fyny mewn gofal maeth erioed wedi fy atal rhag cyflawni fy nodau. Rydw i wastad wedi bod eisiau rhoi rhywbeth yn ôl, a maethu yw ein ffordd o wneud hynny.”
🎥 Gwyliwch stori Tom i glywed sut mae ei brofiadau ei hun wedi ei ysbrydoli i ddod yn ofalwr maeth a gwneud gwahaniaeth i blant heddiw.
gallwch faethu os oes gennych blant eich hun

Mae gan Lisa, o Wrecsam, efeilliaid ifanc ei hun yn barod ac roedd hi a’i phartner Kate eisiau ehangu eu teulu. Gan fod ganddynt gymaint o gariad i’w roi, penderfynon nhw mai maethu oedd y llwybr cywir i’w teulu. Dywedodd hi:
“Dyma’r peth mwyaf gwerthfawr, arbennig ac amhrisiadwy y gallwch ei wneud.”
🎥 Gwyliwch ei stori i glywed sut mae agor eu cartref i blant sydd angen gofal wedi dod â llawenydd i’w teulu, a pham mae cael y gefnogaeth gywir wedi bod yn allweddol i’w taith faethu.
gallwch ddechrau maethu yn ifanc

Mae Hannah a Betty o Gonwy yn rhannu eu profiad o faethu gyda’i gilydd, o’u hangerdd i wneud iddo weithio o amgylch eu ffordd o fyw, gyda chefnogaeth eu hawdurdod lleol. Dim ond 21 oed oedd Betty pan ddechreuodd faethu. Dywedodd Hannah:
“Mae wedi bod mor werth chweil, ac mae maethu gyda Betty wedi bod yn anhygoel”
🎥 Gwyliwch eu stori i glywed sut y daethant i faethu gyda’i gilydd a sut mae cefnogaeth wedi eu helpu i ymgorffori maethu yn rhan o’u bywydau.
gallwch faethu yn ddiweddarach mewn bywyd

Mae Brian, gofalwr maeth awdurdod lleol o Ynys Môn, yn maethu gyda’i wraig, Hilary. Gyda’i gilydd, maent yn angerddol am gefnogi plant a gweithio’n agos gyda theuluoedd i’w helpu i’w cadw gyda’i gilydd lle bynnag y bo modd. Dywedodd:
“Hyd yn oed ar ôl ymddeol, rydyn ni’n cael cymaint o fwynhad allan o faethu.”
🎥 Gwyliwch stori Brian i glywed sut mae maethu wedi cyfoethogi ei ymddeoliad a pham nad yw hi byth yn rhy hwyr i wneud gwahaniaeth.
gallwch faethu os ydych chi’n sengl

Mae Meleri, gofalwr maeth o Wynedd, yn rhannu sut mae hi’n cydbwyso maethu â gweithio’n llawn amser, a pham nad yw bod yn sengl erioed wedi ei hatal rhag darparu cartref cariadus i blant sydd angen un. Dywedodd hi:
“Dwi’n meddwl bod yna rywbeth i bawb mewn maethu. Gall fod yn hyblyg a ffitio o gwmpas gwaith. Er fy mod i’n maethu ar fy mhen fy hun, dydw i byth yn teimlo ar fy mhen fy hun oherwydd mae cefnogaeth wych ar gael pan fydd ei angen arnaf.”
🎥 Gwyliwch stori Meleri i glywed sut mae hi’n cydbwyso maethu â gweithio’n llawn amser a pham nad yw hi byth yn teimlo ar ei phen ei hun fel gofalwr maeth sengl gyda Maethu Cymru.
gallwch faethu os oes gennych anabledd

Mae Steve, o Wynedd, wedi bod yn ofalwr maeth ers 24 mlynedd. Mae’n rhannu beth wnaeth ei ysbrydoli i agor ei gartref a sut, er gwaethaf ei heriau iechyd ei hun, nad yw wedi gadael i unrhyw beth ei rwystro rhag maethu. Dywedodd:
“Mae gen i ddirywiad macwlaidd, cyflwr llygaid, ond nid yw wedi fy atal rhag maethu.”
🎥 Gwyliwch stori Steve i glywed sut mae wedi gwneud i faethu weithio am fwy na dau ddegawd a pham nad oes rhaid i anabledd fod yn rhwystr i ddod yn ofalwr maeth.
gallwch faethu os ydych yn berson prysur

Mae’r digrifwr o Ynys Môn, Kiri Pritchard McLean, hefyd yn maethu gyda’i hawdurdod lleol, gan ddangos sut mae hi’n cydbwyso maethu â gyrfa brysur, yn diddanu’r cyhoedd yn y diwydiant adloniant. Dywedodd:
“Un o’r pethau anhygoel am ddod i faethu yw sylweddoli pa mor eang ydyw o ran ffordd o fyw ac argaeledd.”
🎥 Gwyliwch stori Kiri i glywed sut mae hi’n gwneud i faethu weithio o amgylch ei ffordd o fyw.
beth sy’n eich dal yn ôl?

Ar ôl clywed y straeon hyn, efallai y byddwch chi’n meddwl tybed a allai maethu fod yn iawn i chi.
🎥 Yn y fideo byr yma, mae gofalwyr maeth yn rhannu pam y gwnaethon nhw ddewis mynd amdani – a beth fydden nhw’n ei ddweud wrth unrhyw un sy’n meddwl am gymryd y cam hwnnw.
mae’r cyfan yn dechrau gyda sgwrs gyfeillgar

Os yw’r straeon hyn wedi gwneud i chi feddwl yn wahanol am faethu, beth am gymryd y cam nesaf?
P’un a oes gennych lawer o gwestiynau neu eich bod yn chwilfrydig yn unig, mae Charley, o dîm recriwtio ymroddedig Maethu Cymru Sir y Fflint, yma i wrando, cynnig cyngor a’ch helpu i archwilio a allai maethu fod yn addas i chi.
Os hoffech wybod mwy, rydyn ni yma pan fyddwch chi’n barod.
Os ydych chi’n byw unrhyw le arall yng Nghymru, ewch i Maethu Cymru am ragor o wybodaeth ac i ddod o hyd i dîm maethu eich awdurdod lleol.