mae’n cymryd pentref i fagu plentyn: chwe blynedd o mockingbird yn Sir y Fflint
Ni fwriadwyd maethu erioed i fod yn rhywbeth roedd rhaid i deuluoedd ei wneud eu hunain.
Pan ddaw plentyn i ofal maeth, nid dim ond y plentyn sydd angen cefnogaeth. Mae gofalwyr maeth yn ymgymryd â chyfrifoldeb anferth, yn aml yn llywio profiadau newydd, heriau ac emosiynau ochr yn ochr â’r plentyn yn eu gofal. Fe all cael pobl o’u cwmpas sy’n deall realiti maethu wneud gwahaniaeth mawr.
Weithiau fe ddaw’r gefnogaeth honno gan rywun sydd wedi bod yn y sefyllfa honno o’r blaen. Rhywun all gynnig cyngor, cynnig help llaw, rhoi clust i wrando neu ddeall pan fo pethau’n anodd.
Yn Sir y Fflint mae Mockingbird wedi tyfu i fod yn gymuned o deuluoedd maeth, plant a phobl ifanc sy’n rhannu profiadau, cyfeillgarwch, gweithgareddau a synnwyr o berthyn. Sir y Fflint oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i gyflwyno Mockingbird ac mae’n parhau i fod yr unig awdurdod lleol yng Nghymru sy’n cynnig yr ymagwedd hon. Chwe blynedd ar ôl cyflwyno’r rhaglen, gellir gweld ei heffaith nid yn unig yn y gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr maeth ond hefyd yn y perthnasoedd mae plant a phobl ifanc wedi gallu eu meithrin a’u cynnal.
Ac mae Maethu Cymru Sir y Fflint wedi bod yn ganolog i’r daith honno.
felly beth yn union yw mockingbird?
Mae Mockingbird yn fodel wedi ei seilio ar y teulu sydd wedi ei ddatblygu gan y Rhwydwaith Maethu. Fe ddaw â grwpiau o deuluoedd maeth ynghyd i greu rhwydwaith cefnogol sy’n adlewyrchu’r perthnasoedd y gallwch eu canfod mewn teulu estynedig.
Yn greiddiol i bob cymuned mae cartref Gofalwr Hwb, a arweinir gan ofalwyr maeth profiadol sy’n darparu cefnogaeth i deuluoedd eraill. O’u cwmpas mae Gofalwyr Lloeren a ddaw yn rhan o gymuned ehangach Mockingbird.
Gall y gefnogaeth ymddangos yn wahanol i bob teulu. Fe all olygu fod plentyn yn treulio amser gydag aelodau teulu arall maent yn eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt, aros dros nos pan fo angen seibiant ar ofalwr maeth neu yn syml pan fo gofalwr arall gerllaw sy’n deall yr hyn rydych yn ei brofi. Gall teuluoedd gyfarfod ar gyfer gweithgareddau, rhannu profiadau a datblygu cyfeillgarwch tra bo plant a phobl ifanc yn cael cyfleoedd i dreulio amser gyda’i gilydd mewn amgylchedd hamddenol ac anffurfiol.
Ond mae Mockingbird yn golygu llawer mwy na chefnogaeth ymarferol yn unig. Yn greiddiol iddo mae perthnasoedd a’r synnwyr o gymuned sy’n datblygu wrth i deuluoedd maeth ddod yn rhan o fywydau ei gilydd.
Cafodd Rachel, un o Ofalwyr Hwb Sir y Fflint, ei denu at y model o ganlyniad i’w phrofiad ei hun o dyfu i fyny mewn teulu estynedig mawr. Mae’n cofio cartref ei thaid a’i nain fel lle y gallai’r teulu ehangach ddod ynghyd a chefnogi ei gilydd.
“Gweld y gefnogaeth deuluol estynedig y mae Mockingbird yn ei greu a’r modd y mae’n dod â phlant a gofalwyr maeth yn nes at ei gilydd yw’r hyn wnaeth fy ysgogi i ddod yn Ofalwr Hwb Mockingbird.”
Dros amser fe ddaw teuluoedd i adnabod ei gilydd. Mae plant yn gwneud ffrindiau. Mae gofalwyr maeth yn meithrin perthnasoedd gyda phobl sy’n deall realiti maethu. Gall yr hyn sy’n cychwyn fel grŵp o deuluoedd maeth yn raddol ddod yn rhywbeth sy’n teimlo llawer mwy fel teulu estynedig.
beth mae mockingbird yn ei olygu i blant?
Efallai mai’r ffordd orau o ddeall yr hyn mae Mockingbird yn ei gynnig yw i glywed gan blentyn sydd wedi ei brofi.
Pan ofynnwyd i un plentyn yn Sir y Fflint am ei brofiad ni ddisgrifiwyd dull o faethu ganddo ac ni siaradwyd am strwythurau cefnogi. Yn hytrach soniwyd am y pethau a oedd yn bwysig iddo: treulio amser gyda ffrindiau, mynd am dro, paentio, gwylio ffilmiau, bwyta brownis siocled.
“Fe es i aros dros nos am ddwy noson, fe fûm i’n paentio, mynd â’r ci am dro, gwylio ffilm a bwyta brownis siocled. Fe alla i ofyn i fy ngofalwr am help. Rydw i wedi gwneud dau ffrind. Fe gawsom hwyl yn Loggerheads a chawsom bicnic a hufen iâ.”
Mae’n ddisgrifiad syml ond mae’n dweud llawer am yr hyn y gall Mockingbird ei olygu i blant a phobl ifanc. Gall ddarparu wynebau cyfarwydd, cyfeillgarwch a chyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau arferol gyda phlant eraill a all ddeall rhai o’u profiadau.
Iddynt hwy nid yw Mockingbird o reidrwydd yn ymwneud â bod yn rhan o raglen faethu. Yn syml gall ymwneud â chael rhywle i fynd, pobl maent yn eu hadnabod a phethau i edrych ymlaen atynt.
cymuned sy’n helpu brodyr a chwiorydd i gadw mewn cysylltiad
Un o’r enghreifftiau mwyaf pwerus o effaith Mockingbird yn Sir y Fflint yw profiad dau o frodyr/chwiorydd a ddaeth i gymuned Mockingbird ar ôl dod i ofal maeth yn annisgwyl.
Ar y pryd nid oedd teulu hirdymor addas wedi ei ganfod yn Sir y Fflint. Heb ddewis arall, roedd yna berygl y byddai’n rhaid i un o’r brodyr/chwiorydd symud ymhellach i ffwrdd oddi wrth y bobl, lleoedd a’r perthnasoedd oedd yn bwysig iddynt, a hefyd roedd y posibilrwydd y gallai’r brodyr/chwiorydd gael eu gwahanu.
Daeth dau ofalwr maeth Mockingbird ymlaen ac archwilio a allai eu cymeradwyaeth gael ei ymestyn fel y gallai’r brawd/chwaer aros o fewn yr un gymuned Mockingbird.
Roedd hyn yn golygu y gallai’r brodyr/chwiorydd aros yn agos at ei gilydd, parhau i fod â chyswllt â’u teulu a’u ffrindiau a pharhau i fynychu eu hysgol. Roeddent hefyd yn gallu treulio mwy o amser anffurfiol gyda’i gilydd drwy’r gymuned Mockingbird, yn hytrach na dibynnu ar drefniadau cyswllt teulu ffurfiol yn unig.
Mae’n enghraifft bwerus o beth all ddigwydd pan fo teuluoedd maeth yn cydweithio. Nid yn unig y bu i Mockingbird ddarparu cefnogaeth i blentyn a oedd eisoes mewn gofal maeth, fe helpodd i greu cyfle newydd i blentyn a’i frawd/chwaer ar adeg pan allai’r dewisiadau eraill fod wedi golygu newid sylweddol ac amharu ar fywydau’r plant.
cefnogi gofalwyr maeth yn ogystal â phlant
Tra bo profiadau plant a phobl ifanc yn ganolog i Mockingbird, mae’r model hefyd yn cydnabod fod angen cefnogaeth ar ofalwyr maeth hefyd.
Gall maethu roi boddhad, ond gall hefyd fod yn heriol. Fe all cael rhwydwaith o bobl o’ch cwmpas sy’n deall y rôl ddarparu sicrwydd, cymorth ymarferol a synnwyr nad ydych yn wynebu cyfnodau anodd ar eich pen eich hun.
Disgrifiodd Sue, un o Ofalwyr Hwb Sir y Fflint, Mockingbird fel cymuned sydd wedi datblygu o amgylch yr egwyddor hwnnw.
“I mi mae Mockingbird yn golygu gweithio fel tîm, creu perthnasoedd, cefnogi ein gilydd, gallu helpu a rhoi cyngor a chadw’r plant yn ddiogel yn ein cymuned fel un teulu mawr.”
Mae Cheryl, un arall o Ofalwyr Hwb Sir y Fflint, yn disgrifio’r synnwyr hwnnw o gysylltiad mewn ffordd debyg:
“Rydym yn un teulu mawr sy’n cefnogi ein gilydd yn ystod yr adegau da a’r adegau drwg, ond gan wneud yn siŵr ein bod yn cael llawer o hwyl ar hyd y ffordd.”
Gall y gefnogaeth honno gan gymheiriaid fod yn hynod o bwysig wrth i amgylchiadau newid yn annisgwyl. Mae cael gofalwyr maeth eraill o’ch cwmpas yn golygu fod yna gymuned i droi ati, p’un ai ydych chi angen cymorth ymarferol, cyngor neu’n syml iawn rywun sy’n deall.
pan fo cymuned yn helpu teulu drwy adegau anodd
Fe brofodd un teulu maeth yn Sir y Fflint gyfnod eithriadol o anodd pan fu farw partner y gofalwr maeth. Gadawyd y gofalwr maeth i addasu i fywyd heb y partner tra’n parhau i ofalu am y plentyn a oedd yn byw gydag ef.
Er ei fod yn gyndyn o roi’r gorau i faethu, roedd y sefyllfa wrth reswm yn heriol. Trwy Mockingbird cafodd gefnogaeth gan gymheiriaid, cafodd y plentyn fynd i aros dros nos yn rheolaidd a chafwyd cymorth yn ystod y dydd a oedd yn rhoi cymorth ymarferol i’r gofalwr maeth wrth iddo addasu i’w amgylchiadau newydd.
Ar yr un pryd datblygodd cyfle i ailgysylltu’r plentyn gyda’i frawd/chwaer a oedd yn flaenorol wedi bod yn rhan o’r un gymuned Mockingbird. Nid oedd y brodyr/chwiorydd wedi gweld ei gilydd ers dwy flynedd, ond drwy sgyrsiau rhwng eu cyn ofalwr maeth a’r rhwydwaith ehangach bu iddynt allu cychwyn ailgysylltu’n anffurfiol drwy ddigwyddiadau Mockingbird.
Heddiw mae eu perthynas yn parhau drwy’r gymuned, tra bo’r gofalwr maeth yn parhau i dderbyn cefnogaeth yn ymwneud â’r plentyn yn ei ofal.
I’r teulu, daeth Mockingbird yn fwy na lle i fynychu gweithgareddau. Roedd yn darparu rhwydwaith o’u hamgylch ar adeg pan oeddent angen hynny fwyaf, tra’n helpu i greu cyfle i frodyr/chwiorydd ailadeiladu perthynas bwysig.
mwy nac aros dros nos
Pan fo pobl yn clywed am Mockingbird gyntaf, mae’n bosibl y byddant yn meddwl am gyfleoedd i aros dros nos neu aros am gyfnodau byr yn rhywle. Mae’r rhain yn sicr yn rhan bwysig o sut mae Mockingbird yn gweithio. Rhwng Mawrth 2020 a Mawrth 2025, darparodd Cartrefi Hwb yn Sir y Fflint 2,450 o gyfleoedd i aros dros nos, ochr yn ochr â miloedd o oriau eraill o gefnogaeth gan gynnwys gofal dydd, gweithgareddau cludiant a chyswllt â theulu.
Mae’n ymwneud â gwybod pwy y gallwch ei ffonio pan ddaw pethau’n anodd, gan wybod fod gan eich plentyn bobl o’u cwmpas y maent yn eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt a chael gofalwyr maeth eraill sy’n deall realiti’r rôl gan eu bod nhw’n ei fyw hefyd.
Mae hefyd yn ymwneud â’r perthnasoedd all barhau hyd yn oed pan fo amgylchiadau plentyn yn newid.
pan fo perthnasoedd yn parhau y tu hwnt i ofal maeth
Ymunodd un unigolyn ifanc â chartref eu gofalwr maeth yn ddiweddarach yn eu plentyndod ar ôl profi heriau sylweddol yn eu blynyddoedd cynnar. Er fod pryderon blaenorol wedi bod yn ymwneud ag anifeiliaid, canolbwyntiodd y gofalwr maeth ar feithrin ymddiriedaeth, darparu cefnogaeth a helpu’r plentyn i ddod yn rhan o fywyd dyddiol y teulu.
Fel rhan o hyn cafodd yr unigolyn ifanc ei gyflwyno i helpu i ofalu am gi bach y teulu a nifer o ieir. Bu’r unigolyn ifanc yn helpu i’w bwydo, rhoi dŵr iddynt a sicrhau fod yr ieir yn cael eu cloi yn ddiogel yn ystod y nos.
Yn fuan datblygodd perthynas rhwng yr unigolyn ifanc a chi y teulu, gan greu trefn ddyddiol gadarnhaol a rhywbeth y gallai gymryd cyfrifoldeb drosto.
Yn y diwedd symudodd yr unigolyn ifanc i’r llety byw â chymorth. Fodd bynnag ni ddaeth y berthynas â’i gyn ofalwr maeth i ben wrth iddo symud o ofal maeth. Roedd yn parhau i ymweld â’r teulu, y ci a’r ieir a disgrifiwyd ei gyfnod yn y cartref maeth fel un a fu o fudd i’r pontio i lety byw â chymorth.
Mae hyn yn ein hatgoffa fod maethu yn fwy na dim ond yr amser mae’r plentyn yn ei dreulio yn byw yn eich cartref. Gall y perthnasoedd a gaiff eu creu ar hyd y daith barhau i fod yn bwysig ymhell ar ôl i amgylchiadau newid.
chwe blynedd o Mockingbird yn Sir y Fflint
Ers i Sir y Fflint gyflwyno Mockingbird yn 2020, mae’r gymuned wedi parhau i dyfu. Erbyn Mawrth 2025, roedd yn cynnwys 25 o deuluoedd a oedd yn cael eu cefnogi gan dri chartref Gofalwr Hwb, gan ddod â 45 o oedolion a 31 o blant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal i rwydwaith cysylltiedig.
Mae miloedd o achlysuron o gefnogaeth wedi bod ochr yn ochr â’r 2,450 o gyfleoedd i aros dros nos, o ofal dydd a chludiant i gyswllt â theulu a gweithgareddau a rennir. Mae teuluoedd wedi treulio amser gyda’i gilydd yn mynd am dro, bowlio, cael picnic a dyddiau allan, gan roi cyfleoedd i blant a gofalwyr i feithrin perthnasoedd mewn amgylchedd hamddenol.
Ond dim ond dweud rhan o’r stori mae’r rhifau. Nid ydynt yn dangos plentyn yn gwneud ffrind newydd, gofalwr maeth yn codi’r ffôn gan ei fod yn gwybod y bydd rhywun yn deall, brodyr a chwiorydd yn treulio amser gyda’i gilydd neu deulu yn darganfod y gefnogaeth maent ei hangen yn ystod cyfnod anodd.
Mae’r achlysuron hynny yn fwy anodd i’w mesur, ond maent yn greiddiol i’r hyn yw Mockingbird yn Sir y Fflint.
Mae Lorraine, Swyddog Cyswllt Mockingbird yn Sir y Fflint, wedi bod yn ymwneud â Mockingbird ers dros chwe blynedd ac mae wedi gweld â’i llygad ei hun sut mae’r gymuned wedi datblygu.
“Rydw i wedi bod yn rhan o Mockingbird yn Sir y Fflint ers dros 6 blynedd ac rydw i’n eithriadol o falch o faint mae wedi tyfu. Nid ydym erioed wedi anghofio ein nod o greu profiadau normal, cadarnhaol i blant mewn gofal maeth, ac rydw i’n credu bod ein dull sy’n seiliedig ar y gymuned yn ein helpu i gyflawni hynny. Un o gryfderau mwyaf Mockingbird yw’r ffordd y mae’n creu cyfleoedd newydd i gael cefnogaeth ar draws ein cymuned faethu.”
Mae ei sylwadau yn cyfleu rhywbeth pwysig ynglŷn â Mockingbird. Tra’i fod yn darparu cefnogaeth ymarferol i deuluoedd maeth, mae ei werth yn mynd llawer pellach. Mae’n creu cyfleoedd i blant brofi cyfeillgarwch a normalrwydd, tra’n rhoi i ofalwyr maeth gymuned o’u hamgylch a all gynnig cefnogaeth, anogaeth a dealltwriaeth.
weithiau mae wir yn cymryd pentref cyfan i fagu plentyn
Chwe blynedd yn ôl daeth Sir y Fflint yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i gyflwyno Mockingbird.
Ers hynny mae gofalwyr maeth, plant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol wedi helpu i siapio’r hyn yw heddiw. Mae’r hyn ddechreuodd fel ffordd newydd o gefnogi teuluoedd maeth wedi tyfu yn gymuned lle mae perthnasoedd yn greiddiol i bopeth.
Man lle gall plant feithrin cyfeillgarwch gydag eraill sy’n deall ac yn normaleiddio eu profiadau o ran gofal. Rhwydwaith lle gall gofalwyr maeth ofyn am gymorth, rhannu cyngor a dathlu’r adegau da. Cymuned lle gall brodyr a chwiorydd barhau i gael cyswllt a lle gall perthnasoedd barhau hyd yn oed pan fo amgylchiadau plentyn yn newid.
Ac efallai mai dyna’r ffordd symlaf o ddisgrifio Mockingbird.
Mae’n ein hatgoffa na ddylai maethu fyth gael ei wneud ar eich pen eich hun.
Oherwydd weithiau mae wir yn cymryd pentref cyfan i fagu plentyn.
a allai maethu fod yn rhan o’ch pennod nesaf?
Os ydych yn byw yn Sir y Fflint, cysylltwch â Maethu Cymru Sir y Fflint a bydd aelod o’n tîm ymroddedig yn cysylltu â chi i gael sgwrs gyfeillgar heb rwymedigaeth i’ch helpu i benderfynu a yw maethu yn iawn i chi.
Os ydych yn byw yn unrhyw le arall yng Nghymru, ewch i Maethu Cymru i gael rhagor o wybodaeth ac i ddod o hyd i’ch tîm maethu awdurdod lleol.
We use cookies on our website to give you the most relevant experience by remembering your preferences and repeat visits. By clicking “Accept All”, you consent to the use of ALL the cookies. However, you may visit "Cookie Settings" to provide a controlled consent.
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i wella'ch profiad wrth i chi lywio trwy'r wefan. O'r rhain, mae'r cwcis sy'n cael eu categoreiddio yn ôl yr angen yn cael eu storio ar eich porwr gan eu bod yn hanfodol ar gyfer gweithio swyddogaethau sylfaenol y wefan. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis trydydd parti sy'n ein helpu i ddadansoddi a deall sut rydych chi'n defnyddio'r wefan hon. Dim ond gyda'ch caniatâd y bydd y cwcis hyn yn cael eu storio yn eich porwr. Mae gennych hefyd yr opsiwn i optio allan o'r cwcis hyn. Ond gall optio allan o rai o'r cwcis hyn effeithio ar eich profiad pori.