Yn y bôn, mae gofal gan berthynas yn golygu cariad, teulu a chamu i’r adwy pan mae plant angen hynny fwyaf. Mae’n golygu bod plentyn yn derbyn gofal gan berthnasau neu ffrindiau agos i’r teulu, sy’n rhoi sefydlogrwydd ac aelwyd ddiogel iddynt. I rai pobl, mae’r llwybr yn arwain at warcheidiaeth arbennig, sy’n rhoi sicrwydd i blant o gael tyfu i fyny â phobl sydd eisoes yn eu hadnabod a’u caru.
Mae’n Wythnos Gofal gan Berthynas yr wythnos hon a dymunwn glodfori’r teuluoedd hynny sy’n cyflawni’r swyddogaeth hon gyda chymaint o ymroddiad.
Mae Bradley a Dilys ymysg y teuluoedd hynny. Am y tair blynedd diwethaf, maent wedi rhoi lle ar eu haelwyd ac yn eu calonnau i’w hŵyr. Maent yn warcheidwaid arbennig iddo bellach, a dyma’r hanes o lygad y ffynnon.
llwybr annisgwyl
Feddylion ni fyth mai fel hyn y byddai hi. Doedden ni erioed wedi ystyried bod yn warcheidwaid arbennig ond pan ddaeth yr amser, hynny oedd y peth mwyaf naturiol i’w wneud. Roedden ni wedi bod yn maethu ein hŵyr yn barod ac roedd bod yn warcheidwaid arbennig yn rhoi sicrwydd inni i gyd am y dyfodol.
wynebu byd anghyfarwydd
Roedd o’n drwm ar y dechrau. Fel llawer o bobl eraill, roedd gennym ein syniadau ein hunain am sut beth fyddai gweithio â’r gwasanaethau cymdeithasol. Roedd yn teimlo bod pethau’n mynd yn drech na ni ac roedden ni’n poeni am beth fyddai ein ffrindiau a theulu’n ei feddwl. A fyddai pobl yn ein beirniadu ni? A fydden nhw’n deall?
Buan iawn y gwelon ni nad oedd dim ots am ddim o hynny. Roedd ots gan bawb amdanom ni a’n hŵyr. Roeddent yn awyddus i wybod sut oedden ni’n dod yn ein blaenau, heb hidio dim am y manylion. Ac o ran y gwasanaethau cymdeithasol, buan iawn y diflannodd ein hofnau ni. Fe greon ni berthnasoedd â phobl oedd wir eisiau’r gorau i’n teulu ni ac roedd y gefnogaeth honno’n eithriadol o bwysig.
dysgu a thyfu gyda’n gilydd
Wrth i amser fynd yn ei flaen, fe ddaeth pethau’n haws. Roedd hi’n gysur inni wybod fod rhywun bob amser ar ben arall y ffôn wrth inni ddod i arfer â phethau. Gam wrth gam, fe wnaethon ni fagu hyder wrth wneud penderfyniadau a dod i arfer â’r cyfrifoldeb newydd.
Erbyn inni gael y Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig, roedden ni’n barod. Roedd y gwaith papur i gyd wedi’i wneud a’r pwysau wedi llacio, a daeth bywyd yn dawelach. Fe setlon ni i fath newydd o fywyd normal, un oedd yn llawn cysur o ddilyn trefn a hapusrwydd bywyd teuluol.
mwynhau’r pethau bach bob dydd
Y peth gorau am fod ar y daith hon ydi’r pethau bach. Mae’n werth wynebu’r heriau i gyd i glywed rhywun yn gweiddi “bore da” i fyny’r grisiau, neu gael mwythau mawr heb rybudd.
Hwyrach nad oedden ni wedi disgwyl bod yn magu plentyn eto yn ein hoed ni, ond rydyn ni wedi cael cymaint o hwyl a chariad a phwrpas newydd yn ein bywydau. Mae’n ein cadw ni’n ifanc, mewn llawer o ffyrdd.
ein cyngor i bobl eraill
Os ydych chi ar gychwyn y daith, rydym yn gwybod y gall pethau fod yn drwm. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae gennych gefnogaeth o’ch cwmpas chi ac mae teuluoedd eraill yn troedio’r un llwybr â chi. Cymerwch un cam ar y tro, gosodwch ffiniau pendant o’r cychwyn cyntaf a chadwch gofnod o’r pethau pwysig. Yn y pen draw, y pethau pwysicaf ydi cariad, gofal a sefydlogrwydd.
Mae bod yn warcheidwaid arbennig wedi trawsnewid ein bywydau ni mewn ffyrdd hollol annisgwyl, ond rydyn ni’n ddiolchgar bob dydd am gael bod ar y daith.
A hithau’n Wythnos Gofal gan Berthynas, rydym yn clodfori teuluoedd fel Bradley a Dilys sy’n camu i’r adwy gyda chariad ac ymroddiad, ac sy’n gwneud cymaint o wahaniaeth ym mywydau plant yn Sir y Fflint.
allech chi wneud gwahaniaeth a maethu gyda’ch awdurdod lleol yn Sir y Fflint?
Os ydych yn byw yn Sir y Fflint, cysylltwch â Maethu Cymru Sir y Fflint a bydd aelod o’n tîm ymroddedig yn cysylltu â chi i gael sgwrs gyfeillgar heb rwymedigaeth i’ch helpu i benderfynu a yw maethu yn gweddu i chi.
Os ydych yn byw yn rhywle arall yng Nghymru, ewch i Maethu Cymru i gael ychwaneg o wybodaeth a dod o hyd i dîm maethu Sir y Fflint.