sesiynau gwybodaeth
paned gyda gofalwr
ydych chi’n ystyried maethu ond ddim yn siŵr iawn ble i ddechrau? Beth am gael paned a sgwrs efo un o’n gofalwyr maeth profiadol?
Mae Paned efo Gofalwr yn ffordd hamddenol ac anffurfiol i ddysgu mwy am faethu gyda Maethu Cymru Sir y Fflint. Pa un ai ydych chi newydd ddechrau meddwl am faethu neu wedi bod yn meddwl am faethu ers peth amser, mae’n gyfle i chi ofyn cwestiynau, clywed profiadau go iawn a dysgu mwy am faethu gan rywun sy’n hen law arni.
Does dim cyflwyniadau, dim pwysau na disgwyl i chi fynd gam ymhellach os nad oes arnoch chi eisiau gwneud hynny. Mae’n gyfle i gael sgwrs onest mewn lleoliad cartrefol dros baned neu ddiod o’ch dewis.
beth fedraf ei ofyn?
Unrhyw beth.
Mae ar lawer o bobl eisiau gwybod:
- • Sut beth ydi bod yn ofalwr maeth mewn gwirionedd
• Sut mae maethu yn cyd-fynd â bywyd gwaith a theuluol
• Pa hyfforddiant a chefnogaeth sydd ar gael
• Beth ydi’r broses asesu
• Pam bod maethu yn werth chweil a beth ydi’r heriau
• Beth ydi’r mathau gwahanol o faethu
Does dim un cwestiwn yn rhy fawr nac yn rhy fach. Mae ein gofalwyr maeth wedi bod yn y sefyllfa rydych chi ynddi rŵan ac yn fodlon rhannu eu profiadau yn onest ac yn agored.
mae pob taith faethu yn cychwyn yn rhywle
dyma Nicola
Fel llawer iawn o bobl eraill roedd gan Nicola ddiddordeb mewn maethu ond roedd arni eisiau dysgu mwy cyn penderfynu a oedd maethu yn iawn iddi hi.
Roedd mynd i sesiwn Paned efo Gofalwr yn gyfle iddi ofyn cwestiynau, cael clywed am brofiadau eraill ac ennill gwell dealltwriaeth o sut beth fyddai maethu iddi hi a’i theulu.
Helpodd y sgwrs honno Nicola i gymryd y cam cyntaf.
Heddiw, mae Nicola yn ofalwr maeth cymeradwy Maethu Cymru Sir y Fflint ac yn gwneud gwahaniaeth i fywydau plant lleol yn ei chymuned.
Os hoffech chi glywed mwy am daith Nicola o gael Paned efo Gofalwr i ddod yn ofalwr maeth, fe allwch chi ddarllen ei stori yma.
“braf iawn oedd cael cyfarfod rhywun sy’n ei wneud bob dydd ac oedd yn gallu siarad yn onest am faethu – y cyfnodau da a drwg. dw i’n meddwl fy mod wedi disgwyl rhywbeth llawer mwy ffurfiol, ond roedd yn teimlo’n naturiol ac yn gyfforddus. gallwn ofyn unrhyw beth, ac roedd hynny’n gwneud gwahaniaeth mawr.”
“mae Paned a Sgwrs wedi bod yn drobwynt go iawn. mae pobl yn cael eistedd gyda gofalwr maeth, clywed eu profiadau gonest ac mae hynny’n rhoi hyder iddynt wneud penderfyniad cytbwys. rydw i wedi eu gweld yn mynd o fod yn ansicr iawn i fod yn llawn cyffro, gan wybod eu bod yn gwneud y penderfyniad cywir ar gyfer eu dyfodol nhw a’u teulu.”