pam maethu gyda ni?

sut mae maethu cymru yn cefnogi gofalwyr maeth

cefnogaeth sy’n gwneud gwahaniaeth, gan y bobl sy’n gwybod popeth am y peth

Mae maethu yn benderfyniad sy’n newid bywyd, ac mae teimlo fel eich bod yn cael eich cefnogi yn gwneud gwahaniaeth mawr. Ledled Cymru, mae gofalwyr maeth yn cael eu cefnogi bob dydd gan dimau ymroddedig, cyngor ymarferol a phobl sy’n deall realiti maethu.

Rydyn ni’n rhannu beth yn union yw’r gefnogaeth honno mewn bywyd go iawn.

Yng ngeiriau’r gofalwyr maeth eu hunain.

 

beth mae cefnogaeth yn ei olygu i ofalwyr maeth

Mae cefnogaeth yn ymwneud â mwy na chael cymorth gyda phrosesau neu daliadau yn unig. Ar gyfer gofalwyr maeth, mae’n ymwneud â gwybod bod rhywun yno i wrando, helpu, a chamu i’r adwy pan fydd angen.

Mae pob taith faethu yn wahanol, ond mae gofalwyr yn dweud wrthym yn gyson bod cefnogaeth yn chwarae rhan allweddol wrth wneud iddynt deimlo’n hyderus a medrus a byth ar eu pennau eu hunain.

 

lleisiau gofalwyr maeth

Yr hyn mae ein gofalwyr maeth yn ei ddweud…

mae’n teimlo fel pe bai gennych deulu o’ch cwmpas

Foster Carer Nicola

“Rwy’n rhan o gymuned Mockingbird ac ni allwn fod yn hapusach. Mae’r rhwydwaith cymorth yn anhygoel; mae’n teimlo fel pe bai gennych deulu o’ch cwmpas bob amser, ac rwy’n meddwl y byddwn ar goll heb y bobl hynny ar fy nhaith fel gofalwr maeth. O’r cychwyn cyntaf, roedd popeth yn glir ac yn gefnogol, ac fe ddechreuodd hynny gyda fy sesiwn ‘Paned gyda Gofalwr’. Gwnaeth y sesiwn honno i mi deimlo’n gyfforddus a rhoi’r hyder i mi symud ymlaen. Fe osododd y naws ar gyfer popeth a ddaeth wedyn.”

Nicola, Gofalwr Maeth, Sir y Fflint
Dysgwch fwy am Paned gyda Gofalwr

cymuned faethu leol

Foster carers Cheryl and Andy smiling

“Mae Mockingbird yn gymuned deuluol arbennig sy’n rhoi’r sefydlogrwydd sydd ei angen ar blant. Rydym yn un teulu mawr, yn cefnogi ein gilydd drwy’r amseroedd da a’r amseroedd anodd, gan sicrhau hefyd ein bod yn cael digon o hwyl ar hyd y daith.”

Cheryl ac Andy, Gofalwyr Maeth a Gofalwyr Hwb Mockingbird, Sir y Fflint
Dysgwch fwy am Mockingbird

pan fo angen cefnogaeth

sut rydym yn cefnogi gofalwyr maeth ledled cymru

Mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru, o Sir y Fflint i Sir Benfro, wedi llofnodi Ymrwymiad Cenedlaethol Maethu Cymru – pecyn cytunedig o hyfforddiant, cymorth a gwobrau a gynigir i holl ofalwyr Maethu Cymru.

Mae’r ymrwymiad hwn yn nodi’r gefnogaeth graidd y gallwch ei disgwyl, gan sicrhau eich bod yn teimlo fel eich bod yn cael eich gwerthfawrogi, yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnoch ac yn cael eich cefnogi trwy gydol eich taith faethu.

  • O’ch asesiad cychwynnol gyda gweithiwr cymdeithasol cymwys i arweiniad parhaus gan aelod ymroddedig o dîm Maethu Cymru, byddwch yn derbyn cefnogaeth broffesiynol gyson, ynghyd â chyfleoedd rheolaidd i rannu eich barn.
  • Mae gofalwyr hefyd yn elwa o gymorth cyfoedion, dysgu a datblygu wedi’i deilwra, o leiaf chwe grŵp cymorth bob blwyddyn, ac o leiaf dau ddigwyddiad cymdeithasol ar gyfer yr aelwyd gyfan.
  • Byddwch yn derbyn cylchlythyrau, cynlluniau disgownt, aelodaeth â thâl i’r Rhwydwaith Maethu a New Family Social, a chefnogaeth i greu eich proffil gofalwr maeth ar-lein ar Big Welcome i helpu plant i setlo yn eich cartref. Mae Maethu Cymru hefyd yn cydnabod eich ymroddiad gyda rhoddion gwerthfawrogi, tystysgrifau gwasanaeth hir a gwobrau argymell ffrind, gan sicrhau eich bod yn teimlo fel eich bod yn cael eich gwerthfawrogi bob cam o’r ffordd.