Ar gyfer Wythnos Plant Gofalwyr Maeth, rydym yn dathlu grŵp arbennig iawn o bobl ifanc – plant ein gofalwyr maeth.
Un o’n rheiny yw Yasmin, 21, merch Rachel ac Andy, sy’n ofalwyr maeth ac yn ofalwyr hwb Mockingbird yma yn Sir y Fflint. Dros y blynyddoedd, mae Yasmin wedi croesawu 16 o blant i’w chartref teuluol, bob un â’i stori a’i anghenion ei hun. Mae ei rhieni wedi bod yn maethu am bedair blynedd, a thrwy gydol y cyfnod hwnnw mae Yasmin wedi chwarae rhan bwysig wrth wneud i blant deimlo’n ddiogel, wedi eu cynnwys ac yn rhan o’r teulu.
Mae Yasmin yn gwybod beth mae’n ei olygu i dyfu fyny fel rhan o aelwyd sy’n maethu, a’r wythnos hon rydym yn rhannu rhai o’i theimladau a’i phrofiadau. Mae ei geiriau yn dangos pam fod lleisiau plant mor bwysig, a sut mae maethu bob amser yn siwrnai mae’r teulu cyfan yn mynd arni gyda’i gilydd.
rhannu cartref a theulu
Mae bod yn blentyn i ofalwr maeth yn golygu rhannu eich cartref, eich rhieni, ac weithiau hyd yn oed eich hoff le ar y soffa. Mae plant i ofalwyr maeth yn aml y rhai cyntaf i groesawu plentyn sy’n derbyn gofal i’r teulu, gan eu helpu i setlo a theimlo eu bod yn perthyn.
Dywedodd Yasmin…
“Mae rhannu fy nghartref gyda phlant maeth wedi bod yn brofiad mor gadarnhaol. Rwyf wrth fy modd yn bod yn un o’r cyntaf i’w croesawu, gan eu dangos o gwmpas a’u helpu i deimlo’n rhan o’r teulu yn syth hyd yn oed os yw hynny ond yn eistedd gyda nhw neu chwarae gemau”
dod â hwyl, cyfeillgarwch a chefnogaeth
Mae nifer o ofalwyr maeth yn dweud wrthym fod eu plant eu hunain wedi bod yn ganolog i’w siwrnai faethu. Maent yn dod ag egni, hwyl a chyfeillgarwch. Y nhw yn aml yw’r rhai sy’n gwneud i bawb deimlo’n gyffyrddus gyda gemau, gwneud y cyflwyniadau yn yr ysgol, neu’n syml, eistedd a sgwrsio. Gall caredigrwydd gan blant gofalwyr maeth wneud gwahaniaeth enfawr.
Dywedodd Yasmin…
“Rhai o fy hoff atgofion yw’r diwrnodau allan rydym wedi eu cael gyda’r plant a theuluoedd maeth eraill. Tripiau i’r parc, y traeth, neu ddiwrnodau hwyl eraill, mae’n gyfle i chwerthin gyda’n gilydd a gwneud ffrindiau. Fy hoff drip oedd i Barc Saffari West Midlands!”
dysgu a thyfu gyda’n gilydd
Nid yw maethu bob amser yn hawdd. Gall gymryd llawer o amynedd i rannu sylw, a gall fod yn emosiynol pan fo’r plant yn symud ymlaen. Ond mae’r profiadau hyn hefyd yn addysgu gwytnwch, empathi, a dealltwriaeth, rhinweddau mae plant ein gofalwyr maeth yn eu cario gyda nhw am oes.
Dywedodd Yasmin…
“Mae bod mewn teulu sy’n maethu wir wedi siapio pwy ydw i. Rwyf wedi dysgu i geisio deall mwy a bod â meddwl agored, ac mae wedi dangos i mi pa mor bwysig yw hi i fod yno i bobl pan fyddant fwyaf ei angen. Y rheiny yw’r gwersi a fydd bob amser yn aros gyda mi”
arwyr tawel maethu
Yr wythnos hon, rydym eisiau dweud diolch yn fawr wrth blant gwych ein gofalwyr maeth yn Sir y Fflint sy’n rhan o’r siwrnai hon. Ni fyddai maethu yr un fath hebddoch chi.
Dywedodd Yasmin…
“Mae bod yn rhan o deulu sy’n maethu wedi newid fy mywyd. Mae wedi llenwi ein cartref gyda chwerthin, cyfeillgarwch newydd, a chymaint o gariad. Rwy’n teimlo mor falch o rannu’r siwrnai honno ac i wybod ein bod wedi gwneud gwahaniaeth ym mywydau plant”
Dywedodd rhieni Yasmin, Rachel ac Andy…
“Fel teulu, un o’n blaenoriaethau cyntaf oedd siarad yn onest am faethu ac i wrando ar feddyliau a theimladau ein plant. Roedden ni’n gwybod y byddai angen i’r amser fod yn iawn i bawb ohonom, felly dewisom aros ambell flwyddyn. Yn ystod yr amser hwnnw roedd llawer o deimladau, ond y cydymdeimlad a deimlom i’r plant a oedd angen cariad a gofal yw’r hyn a ysgogodd ni i ddechrau ein taith faethu. Mae gwylio ein plant yn croesawu ac yn cofleidio pob plentyn sy’n dod i’n cartref wedi bod yn wirioneddol galongar, ac rydym yn credu ei fod yn helpu i’w siapio nhw yn bobl ifanc gofalgar fel y maent heddiw.”
Dyma rai sylwadau a rannwyd gan blant eraill ein gofalwyr maeth yng nghymuned maethu Sir y Fflint.
Dywedodd Owen…
“Fyddai dim o hyn yn bosib heb fy mam, ac rydw i’n hynod falch o’i chefnogi fel ei mab.”
Dywedodd Charlotte a Thomas…
“Rydym eisiau gwneud yn siŵr eu bod yn hapus, wedi setlo ac yn fodlon. Byddwn yn gwneud ein gorau i wneud iddynt deimlo’n rhan o’n teulu.”
Dywedodd Charlie…
“Rwy’n hoffi pan mae plant yn aros oherwydd maent yn chwarae gyda fy nheganau ac yn chwarae pêl-droed gyda mi yn yr ardd. Bod fel brawd mawr yw fy hoff ran.”
Dywedodd Ava…
“Cyn i blant ddod i aros, mae mam a dad yn gofyn i mi beth ydw i’n ei feddwl. Rwy’n hoffi eu helpu felly rwy’n dweud iawn. Pan mae nhw yma, mae nhw’n ein trin ni i gyd yr un fath.
allech chi faethu?
Os ydych yn byw yn Sir y Fflint, cysylltwch â Maethu Cymru Sir y Fflint a bydd aelod o’n tîm ymroddedig yn cysylltu â chi i gael sgwrs gyfeillgar heb rwymedigaeth i’ch helpu i benderfynu a yw maethu yn iawn i chi. Os ydych yn byw yn unrhyw le arall yng Nghymru, ewch i Maethu Cymru i gael rhagor o wybodaeth ac i ddod o hyd i’ch tîm maethu awdurdod lleol.
If you live in Flintshire, contact Foster Wales Flintshire and a member of our dedicated team will be in touch for a friendly, no obligation conversation to help you decide if fostering is right for you.
If you live anywhere else in Wales, visit Foster Wales for more information and to find your local authority fostering team.
Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan i roi'r profiad mwyaf perthnasol i chi trwy gofio'ch dewisiadau ac ailadrodd ymweliadau. Trwy glicio “Derbyn Popeth”, rydych yn cydsynio i ddefnyddio POB cwci. Fodd bynnag, gallwch ymweld â "Gosodiadau Cwcis" i roi caniatâd rheoledig.
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i wella'ch profiad wrth i chi lywio trwy'r wefan. O'r rhain, mae'r cwcis sy'n cael eu categoreiddio yn ôl yr angen yn cael eu storio ar eich porwr gan eu bod yn hanfodol ar gyfer gweithio swyddogaethau sylfaenol y wefan. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis trydydd parti sy'n ein helpu i ddadansoddi a deall sut rydych chi'n defnyddio'r wefan hon. Dim ond gyda'ch caniatâd y bydd y cwcis hyn yn cael eu storio yn eich porwr. Mae gennych hefyd yr opsiwn i optio allan o'r cwcis hyn. Ond gall optio allan o rai o'r cwcis hyn effeithio ar eich profiad pori.