
Pan mae plant yn tyfu i fyny ac yn gadael cartref, mae llawer o rieni’n disgrifio’r foment fel un chwerw-felys. Mae’r tŷ yn teimlo’n dawelach, mae’r fasged ddillad yn wag, ac mae gennych fwy o amser sbâr. Mae’n bennod newydd – un y gall ddod â rhyddid, ond hefyd ymdeimlad o “beth nesaf?”
I rai teuluoedd yn Sir y Fflint, mae’r cwestiwn hwnnw wedi’u harwain at faethu. Gyda’r profiad o fagu eu plant eu hunain, a’r lle yn eu cartrefi a’u calonnau, mae llawer o unigolion wedi darganfod mai maethu yw’r cam naturiol nesaf.
pwrpas newydd
Dros y saith mlynedd diwethaf, mae Cheryl ac Andy wedi bod yn maethu gyda’u hawdurdod lleol yn Sir y Fflint. Yn y cyfnod hwnnw, maent wedi croesawu 28 o blant i’w cartref a hyd yn oed wedi cefnogi rhiant a phlentyn. Pedair blynedd yn ôl, fe wnaethant hefyd gamu i rôl gofalwyr Hwb Mockingbird, gan gynnig arweiniad a chefnogaeth i deuluoedd maeth eraill yn eu cymuned.
Dechreuodd eu siwrnai faethu ar ôl i’w plant dyfu i fyny, ond buan iawn y daethant i sylweddoli y gallai’r bennod newydd hon fod yn llawn pwrpas, cariad a chysylltiad.
Meddai Cheryl ac Andy…
“Ar ôl i’n plant dyfu i fyny a gadael ein cartref, roeddem yn gwybod bod gennym lawer iawn o gariad ac amser ar ôl i’w rhoi. Nid oedd ein taith magu plant ar ben. Rydym wrth ein boddau gyda phlant, a dros y blynyddoedd rydym wedi dysgu gymaint am ffiniau a phwysigrwydd gwrando. Roeddem eisiau rhoi cyfle i blant sydd wedi profi anawsterau gael ffynnu, teimlo’n hapus a diogel, yn union fel y cafodd ein plant ni. Mae pob plentyn sy’n dod i mewn i’n bywydau yn cael ei groesawu fel rhan o’n teulu, gyda gwir deimlad o berthyn.”
Nid yw maethu’n disodli bod yn rhiant i’ch plant eich hun, ond gall ddod â chynhesrwydd a rhythm bywyd teuluol yn ôl. Boed yn helpu gyda gwaith cartref, coginio swper gyda’ch gilydd, neu glywed chwerthin o amgylch y bwrdd bwyd, mae llawer o ofalwyr yn disgrifio maethu fel ffordd o ddod â bywyd yn ôl i’w cartrefi.
profiad sy’n bwysig
Yn aml, mae gan rieni sydd â phlant hŷn sydd wedi gadael cartrefi lawer iawn o brofiad gwerthfawr i’w gynnig. Maent wedi mynd â phlant i’r ysgol, wedi profi’r arddegau a nosweithiau digwsg. Maent yn ymwybodol o’r pethau da a’r pethau drwg am fywyd teuluol – a gall y wybodaeth honno wneud byd o wahaniaeth.
Gall maethu hefyd ddod â’r llawenydd o brofi’r cerrig milltir arbennig hynny am y tro cyntaf. Y wên gyntaf, y camau cyntaf, y diwrnod cyntaf yn yr ysgol – gall pethau sydd efallai’n teimlo fel atgofion ddod yn rhan o fywyd unwaith eto, ond y tro hwn gyda phlentyn sy’n derbyn gofal sydd angen cariad a sefydlogrwydd.
Meddai Cheryl ac Andy…
“Mae’r pleser o weld eu hwynebau hapus a chlywed eu chwerthin wrth iddynt chwarae yn anhygoel. Unwaith y bydd plant yn dechrau ymddiried ynoch chi ac yn teimlo’n ddiogel i fod yn nhw eu hunain, mae’n rhoi gwerth i bopeth rydym yn ei wneud.”
lle i roi rhywbeth yn ôl
Gall dod yn ofalwr maeth ar ôl i’ch plant dyfu i fyny fod yn ffordd o roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned a rhannu’r cartref yr ydych wedi’i greu. Nid yw’n gwneud gwahaniaeth os ydych chi’n sengl, yn briod, mewn gwaith neu wedi ymddeol – yr hyn sy’n bwysig yw eich parodrwydd i ofalu am blentyn.
a allai maethu fod yn rhan o’ch pennod nesaf?
Os yw eich tŷ’n teimlo ychydig yn rhy dawel ac rydych wedi bod yn ystyried sut i ddefnyddio eich amser a’ch profiad, gallai maethu fod yr ateb. I lawer yn Sir y Fflint, nid yw’r cyfnod hwn o fywyd wedi teimlo fel diwedd o gwbl. Yn hytrach, mae’n ddechrau ar rywbeth newydd – yn llawn chwerthin, dysgu a chariad.
Os ydych yn byw yn Sir y Fflint, cysylltwch â Maethu Cymru Sir y Fflint a bydd aelod o’n tîm ymroddedig yn cysylltu â chi i gael sgwrs gyfeillgar heb rwymedigaeth i’ch helpu i benderfynu a yw maethu yn iawn i chi.
Os ydych yn byw yn unrhyw le arall yng Nghymru, ewch i Maethu Cymru i gael rhagor o wybodaeth ac i ddod o hyd i’ch tîm maethu awdurdod lleol.