pam maethu gyda ni?

cefnogaeth a manteision

cyllid a lwfansau

Byddwch chi’n cael lwfansau ariannol fel gofalwr maeth gyda thîm Maethu Cymru Sir y Fflint. Mae’r lwfansau ariannol yn seiliedig ar wahanol ffactorau, fel y math o faethu rydych chi’n ei wneud, nifer y plant rydych chi’n eu maethu, ac am ba mor hir rydych chi’n maethu.

Er enghraifft, yn Sir y Fflint mae gofalwyr maeth yn derbyn rhwng £9,900 a £36,000 y flwyddyn.

Blog: y canllaw gorau i dâl gofalwyr maeth – maethu cymru

manteision eraill

Mae bod yn ofalwr maeth yn cynnig mwy o fanteision na rydych chi’n ei sylweddoli. Ynghyd â’r cymorth a’r lwfansau y soniwyd amdanyn nhw eisoes, yn Sir y Fflint byddwch chi hefyd yn cael:

  • Gostyngiad o 50% yn y Dreth Gyngor.
  • Aelodaeth am ddim o Cadw.
  • Cerdyn golau glas – mynediad am ddim ac am bris gostyngol i atyniadau yn y DU.
  • Aelodaeth o’r Rhwydwaith Maethu.
  • Mae Cyngor Sir y Fflint yn Gyflogwr sy’n Deall Maethu.

Os ydych yn gweithio i Gyngor Sir y Fflint ac yn ofalwr maeth, byddwch yn derbyn hyd yn oed mwy o fanteision. I ddarganfod mwy: ydych chi’n gweithio i Syngor Sir Ffflint?

ymrwymiad cenedlaethol maethu cymru

Ac mae mwy! Mae pob un o’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru, wedi ymrwymo i’r hyn rydyn ni’n ei alw yn Ymrwymiad Cenedlaethol. Pecyn o hyfforddiant, cefnogaeth a manteision y cytunwyd arno yw hwn, i bob un o’n gofalwyr maeth ei fwynhau.

Felly, fel gofalwr maeth Maethu Cymru, byddwch chi’n elwa o’r canlynol:

Foster Wales Flintshire team

un tîm

Mae pawb sy’n ymwneud â bywyd plentyn maeth – pob gweithiwr proffesiynol ac, wrth gwrs, chi eich hun – yn rhan o’r Awdurdod Lleol. Rydyn ni’n un tîm ac rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd bob amser. Mae’r ffocws hwn ar gysylltiad yn helpu i sicrhau bod y plant rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw, a’u teuluoedd maeth, yn cael y dyfodol gorau posibl. Fel gofalwr maeth, byddwch chi wastad yn cael eich cynnwys, eich gwerthfawrogi a’ch parchu yn y tîm.

Drwy ddod yn rhan o’r tîm, byddwch chi’n ymuno â’r rheini sy’n gyfrifol yn y pen draw am bob plentyn mewn gofal yng Nghymru, a byddwch yn helpu plant i aros yn eu hardal leol. Dyna sy’n gwneud y tîm hwn yn wahanol i bob tîm arall.

Woman on laptop sitting on sofa

dysgu a datblygu

Rydyn ni’n eich helpu i dyfu gyda’n pecyn cymorth – a system o fanteision cyson ar draws Cymru. Mae dysgu a thyfu yn rhannau allweddol o’r hyn rydyn ni’n ei gynnig.

Mae’r offer a’r hyfforddiant rydyn ni’n eu darparu yn eich galluogi i ddatblygu’n ofalwr maeth hyderus a galluog. Er mwyn diwallu anghenion y plant sydd yn eich gofal yn llawn.

Fel gofalwr maeth Maethu Cymru, bydd gennych gofnod dysgu personol unigol a chynllun datblygu. Mae’r cynllun hwn yn cadw golwg ar y cynnydd rydych chi’n ei wneud – y sgiliau a’r profiadau gwerthfawr a throsglwyddadwy rydych chi wedi’u hennill, yn ogystal â chynlluniau ar gyfer y dyfodol.

 

Foster carer chatting with social worker on park bench

cefnogaeth

Fel gofalwr maeth gyda Maethu Cymru Sir y Fflint, dydych chi byth ar eich pen eich hun. Bydd ein tîm ar gael i’ch cefnogi a’ch annog gyda phob cam.

Bydd gennych chi weithiwr cymdeithasol profiadol a phroffesiynol i’ch cefnogi chi, eich teulu a’ch rhwydwaith cyfan.

Bydd gennych chi hefyd fynediad at amrywiaeth o grwpiau cefnogi, lle byddwch chi’n cwrdd â gofalwyr maeth eraill. Bydd hyn yn gyfle i chi siarad, gwrando a rhannu eich profiadau.

Gall cefnogaeth gan Yr Arloeswyr, ein grŵp o ofalwyr maeth profiadol yn Sir y Fflint, roi arweiniad a’r gefnogaeth sydd ei angen arnoch.

Mae cymorth gan gymheiriaid ar gael gyda phob tîm Maethu Cymru lleol, a gall wneud byd o wahaniaeth. Fel partner Mockingbird cyntaf y Rhwydwaith Maethu yng Nghymru, gyda Maethu Cymru Sir y Fflint, gallwch chi elwa o’r model cymorth hwn gan gymheiriaid.

foster carer and baby

grŵp babanod a chyn-ysgol

Byddwch yn cael mynediad i grŵp cymorth misol ar gyfer gofalwyr maeth sy’n gofalu am fabanod a phlant cyn oed ysgol. Mae ein babanod a’n plant yn cael cyfleoedd cyffrous i gwrdd ag eraill a chefnogi eu datblygiad cyffredinol mewn man diogel a hwyliog sydd wedi’i gynllunio ar gyfer archwilio. Mae’r grwpiau wedi’u teilwra i gynnwys chwarae synhwyraidd, gweithgareddau cerddoriaeth, a llawer mwy i ddiwallu anghenion y grŵp oedran hwn. Ar gyfer gofalwyr maeth, rydym yn ymdrin â phynciau fel maeth, chwarae, amser teulu, a phontio. Mae’r grŵp yn gyfle gwych i ofalwyr ddod at ei gilydd, rhannu arferion gorau dros ddiod poeth, a chyfnewid offer.

Two foster carers crocheting together

grwpiau cymorth llesiant

Yn Maethu Cymru Sir y Fflint, rydym yn gyffrous i ddod â mwy o ddigwyddiadau llesiant ar gyfer ein gofalwyr maeth gwych yn unig! Gwyddom fod bod yn ofalwr maeth yn dod â’i set ei hun o heriau unigryw, ac rydym am greu gofod cynnes i bawb gysylltu a rhoi cymorth i’w gilydd. Byddwch yn cael mynediad i amrywiaeth o ddigwyddiadau, gan gynnwys sesiynau anadliad grŵp a gweithgareddau crefft fel gwneud canhwyllau, gwneud torchau, a chrosio, ymhlith llawer o rai eraill, i feithrin eich corff a’ch meddwl.

fostering community in flintshire

y gymuned faethu

Mae cadw mewn cysylltiad yn allweddol.

Bydd y gymuned faethu yn dod â chi’n agosach at deuluoedd maeth eraill drwy fynychu digwyddiadau a gweithgareddau. Byddwch chi’n gwneud ffrindiau newydd, yn cael profiadau newydd ac yn creu atgofion newydd.

Bydd gennych chi fynediad at lawer o wybodaeth a chyngor ar-lein, felly fyddwch chi byth yn teimlo ar eich pen eich hun.

Pan fyddwch chi’n ymuno â Maethu Cymru, byddwn ni’n talu i chi fod yn aelod o’r Rhwydwaith Maethu (TFN) a Chymdeithas Maethu a Mabwysiadu (AFA) Cymru. Pam? Rydyn ni’n gwerthfawrogi bod y cymorth annibynnol, y cyngor preifat, yr arweiniad a’r manteision ychwanegol y mae’r sefydliadau maethu arbenigol hyn yn eu cynnig yn amhrisiadwy.

shaping the future of fosteirng in wales

llunio’r dyfodol

Y cam pwysicaf yw’r cam nesaf – beth allwch chi ei wneud i sicrhau dyfodol gwell i blentyn. Er bod gan bob plentyn orffennol, rydyn ni’n canolbwyntio ar y presennol a’r dyfodol. Mae’n ymwneud â siapio’r dyfodol fel gofalwr maeth.

Byddwch yn cael eich clywed nid yn unig yn lleol, ond yn genedlaethol hefyd. Bydd eich barn yn dylanwadu ar sut byddwn ni’n symud ymlaen. Bydd cyfleoedd i chi ymgynghori a dylanwadu ar ddyfodol maethu yng Nghymru, yn ogystal â chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf.

Woman and young girl using computer to make video call

cymryd y cam cyntaf

cysylltu â’n tîm maethu cymru lleol