
Ar gyfer Diwrnod Cenedlaethol Anifeiliaid Anwes eleni, buom yn siarad â’n gofalwr maeth ymroddedig, Wendy, a’i ffrind bach blewog, ffyddlon, Ronnie, i weld sut mae cael anifail anwes wedi dylanwadu ar ei rôl fel gofalwr maeth.
ers faint ydych chi wedi bod yn ofalwr maeth gyda maethu cymru sir y fflint?
Rwyf wedi ymroi’r chwe blynedd diwethaf i faethu gyda thîm maethu fy awdurdod lleol, Maethu Cymru Sir y Fflint.
sut ydych chi’n cyflwyno eich ci i’r plant pan maen nhw’n cyrraedd am y tro cyntaf?
Pan mae plant newydd yn dod i ofal Wendy, mae hi’n gwneud yn siŵr ei bod hi’n eu cyflwyno nhw’n syth i Ronnie. “Rwyf wastad yn mynd â’r plant at Ronnie ac yn gadael iddynt ei fwytho os ydynt eisiau gwneud hynny a dangos ei deganau iddynt,” dywedodd. “Nid yn unig y mae’r cyflwyniad ysgafn hwn yn helpu gyda throsglwyddo’r plentyn, ond mae hefyd yn helpu i adeiladu ymdeimlad o ymddiriedaeth a chysur yn eu hamgylchedd newydd.”

a allwch chi rannu unrhyw brofiadau lle wnaeth cael trefn bob dydd helpu i greu amgylchedd lleddfol i blentyn yn eich gofal?
Gall presenoldeb tawel Ronnie fod o gymorth sylweddol i’r plant sy’n cael eu maethu gan Wendy. “Mae o mor ddof a chymdeithasol, mae wrth ei fodd yng nghwmni plant. Mae wastad yn eistedd yn agos atynt ac yn swatio wrth eu hochr os ydynt yn hapus iddo wneud hynny.” Gall yr agosatrwydd llawn cariad hwn ddarparu awyrgylch sy’n tawelu’r meddwl, gan helpu plant i deimlo’n fwy diogel chartrefol.
ym mha ffyrdd ydych chi’n meddwl bod cael ci yn rhoi budd i ddynameg y teulu wrth faethu?
Mae’r buddion o gael Ronnie yn eu cartref yn golygu mwy na chwmnïaeth yn unig. “Mae Ronnie yn gi sy’n ymddwyn yn dda iawn – mae’n ddof a hamddenol iawn,” eglurodd Wendy. “Nid yw rhai o’r plant wedi cael anifail o’r blaen ac mae’n helpu i roi cysur iddynt. Mae pawb wrth eu bodd ag ef!” Mae cael anifail anwes fel Ronnie nid yn unig yn gwneud i’r teulu deimlo’n agosach at ei gilydd, ond mae hefyd yn helpu i greu’r cysylltiadau pwysig hynny a all fod yn llesol iawn i blant sydd wedi wynebu cyfnodau anodd.

ydych chi wedi sylwi ar unrhyw effeithiau cadarnhaol o gael anifail anwes ar y plant yr ydych chi wedi’u maethu?
Mae Wendy hefyd wedi sylwi ar newidiadau cadarnhaol yn y plant y mae hi’n gofalu amdanynt. “Mae helpu i ofalu am anifail anwes yn dysgu plant am gyfrifoldeb ac yn creu trefn bob dydd ar gyfer bwydo, tacluso ac ymarfer corff. Gall anifeiliaid anwes roi cysur a chwmnïaeth, gan helpu plant i ymdopi â straen, pryder ac unigrwydd.” Mae’r gwersi hyn yn mynd yn bell wrth baratoi plant ar gyfer dyfodol mwy sefydlog.
Pa gamau ydych chi’n eu cymryd i sicrhau diogelwch a chyfforddusrwydd eich anifeiliaid anwes a’r plant yn eich cartref?
Mae Wendy yn pwysleisio pwysigrwydd diogelwch y plant a’r anifeiliaid anwes. “Rydych wastad angen bod yn bresennol pan mae gennych anifail yn eich cartref,” dywedodd. Mae sicrhau amgylchedd dan oruchwyliaeth yn hanfodol i gynnal a chadw awyrgylch cadarnhaol a diogel i bawb dan sylw.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried dod yn ofalwr maeth gyda maethu cymru sir y fflint?
I unrhyw un sy’n ystyried dod yn ofalwr maeth gyda Maethu Cymru Sir y Fflint, mae gan Wendy rywfaint o anogaeth i chi: “Gall deimlo’n werthfawr iawn gwybod eich bod wedi helpu i altro a newid bywyd unigolyn ifanc. Mae bod yn ofalwr maeth yn eich galluogi i fod yn rhan o ddysgu, datblygiad a chynlluniau’r plentyn ar gyfer y dyfodol – mae eich rôl yn siapio eu bywydau. Rwy’n difaru na wnes i ddechrau blynyddoedd yn ôl, dyma’r peth mwyaf gwerthfawr a wnes i erioed.”
mae stori Wendy yn dyst…
I’r cysylltiadau cryf a all ffurfio rhwng plant ac anifeiliaid anwes. Mae Ronnie yn fwy na chi yn unig, mae’n rhan hanfodol o siwrnai maethu Wendy, gan ddod â hapusrwydd, cysur a chefnogaeth i’w theulu a’r plant y mae hi’n gofalu amdanynt.
Mae gan lawer o ofalwyr maeth Maethu Cymru Sir y Fflint eu cymdeithion blewog a phluog eu hunain, yn fawr ac yn fach! Dyma ychydig ohonynt yn y lluniau isod.

Ar gyfer Diwrnod Cenedlaethol Anifeiliaid Anwes eleni, beth am ddathlu’r rôl anhygoel y mae anifeiliaid anwes yn ei chwarae yn ein bywydau, yn enwedig yng nghyd-destun maethu.