Pethau cyffredin sy’n aml yn cynnig sefydlogrwydd mewn gofal maeth. Yr un ysgol. Yr un ystafell ddosbarth. Ffrindiau nad ydynt yn diflannu dros nos. Trefn ddyddiol a gynhelir yn ddigon hir i blentyn ymgartrefu.
I Tom, roedd y sefydlogrwydd hwnnw’n gwneud cymaint o wahaniaeth.
Mae gan Tom brofiad personol o fod mewn gofal a heddiw, mae o’n ofalwr maeth gyda Maethu Cymru Sir y Fflint. Roedd gallu aros yn lleol ac yn yr un ysgol yn golygu nad oedd rhaid iddo ddechrau eto bob tro y byddai rhywbeth yn newid o’i gwmpas. Aeth yn ei flaen i gwblhau ei addysg, yna fe aeth i’r brifysgol ac mae bellach yn gweithio fel darlithydd.
“Dw i’n eiriolwr brwd dros y syniad na ddylai bod mewn gofal maeth ddal pobl ifanc yn ôl. Ni wnaeth erioed fy atal i rhag cyflawni fy nodau. O fy mhrofiad fy hun, cefais fy nghefnogi gan yr awdurdod lleol i aros yn lleol ac yn yr un ysgol, ac mi wnaeth hynny fy helpu fi’n fawr o ran fy addysg, fy ngyrfa, mynd ymlaen i astudio Lefel A, prifysgol a gweithio fel darlithydd erbyn hyn.”
Heddiw, mae Tom a’i deulu yn croesawu plant lleol i’w cartref hwythau, gan gynnig gofal maeth tymor byr fel bod modd iddynt aros yn eu cymuned eu hunain yn Sir y Fflint a phrofi’r un ymdeimlad o berthyn. Mae’n fywyd go iawn ac yn hynod brysur. Mae maethu yn deillio o brofiad personol i Tom. Mae â phrofiad o ofal ei hun, ac mae hynny wedi llywio ei benderfyniad i fod yn ofalwr maeth.
“A minnau â phrofiad o dyfu fyny mewn gofal fy hun, dw i bob amser wedi bod eisiau rhoi rhywbeth yn ôl. Dw i’n ddarlithydd llawn amser yn y brifysgol ac mae fy ngwraig yn athrawes llawn amser. Mae gennym ni hefyd ddau o blant ifanc, ond mae gennym ni gydbwysedd da rhwng hynny a maethu. Mae’r tŷ’n llawn bwrlwm, ac mae’r plant ar y cyfan yn hoff o fod yn rhan o’r bywyd teuluol prysur hwnnw.”

Mae’r hyn sydd fwyaf pwysig iddo bellach yn syml. Cadw plant mewn cysylltiad â’r pethau sy’n bwysig iddynt. Pan fydd y cysylltiadau hyn yn cael eu cynnal, nid oes rhaid i blant ailsefydlu popeth o’u cwmpas bob tro y bydd rhywbeth yn newid.
“Dw i’n meddwl bod cadw plant yn lleol i ysgolion, rhwydweithiau teulu a ffrindiau yn hynod bwysig o ran sicrhau parhad a sefydlogrwydd ar eu cyfer.”
Mae ei neges i unrhyw un sy’n ystyried maethu’n syml:
“Os nad ydych chi’n siŵr ynglŷn â maethu, efallai y dylech ei ystyried. Rydym wedi llwyddo i ddod o hyd i ffordd sy’n gweithio o gwmpas ein ffordd o fyw prysur, gyda’n swyddi llawn amser a’n plant ifanc, ac mae’n werth chweil.”
allai maethu fod yn rhan o’ch pennod nesaf chi?
Os ydych yn byw yn Sir y Fflint, cysylltwch â Maethu Cymru Sir y Fflint a bydd aelod o’n tîm ymroddedig yn cysylltu â chi i gael sgwrs gyfeillgar heb rwymedigaeth i’ch helpu i benderfynu a yw maethu yn iawn i chi.
Os ydych chi’n byw yn rhywle arall yng Nghymru, ewch i Maethu Cymru i gael rhagor o wybodaeth a dod o hyd i’ch tîm maethu Sir y Fflint chi.