Pan mae plant mewn gofal maeth, mae cadw cysylltiad gyda’r bobl sy’n bwysig iddyn nhw yn chwarae rhan bwysig i’w helpu i deimlo’n ddiogel, bodlon ac yn cael eu deall. Mae amser teulu yn rhoi cyfle i’r plant gynnal perthnasau pwysig a chadw cysylltiad gyda’u synnwyr o hunaniaeth, hanes teuluol a’r bobl sy’n bwysig yn eu bywydau, hyd yn oed yn ystod cyfnodau o newid ac ansicrwydd.
Ond i nifer o blant, gall amser teulu godi cymysgedd o emosiynau. Dyna pam bod cael y gefnogaeth iawn o’u hamgylch yn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Amser teulu yw pan fydd plant mewn gofal yn cadw cysylltiad gydag aelodau o’u teulu neu bobl sy’n bwysig iddyn nhw. Gall hyn ddigwydd mewn amryw o ffyrdd, gan gynnwys cyfarfodydd wyneb yn wyneb, galwadau ffôn, llythyrau, negeseuon e-bost a rhwydweithiau cymdeithasol. Gall amser teulu hefyd gynnwys cefnogaeth gan ofalwyr maeth i helpu i’r plant deimlo’n gyfforddus, bodlon a chael eu cefnogi’n emosiynol trwy’r profiad..
Ar gyfer y gofalwr maeth Amy, mae cefnogi amser teulu wedi dod yn rhan ystyrlon o’i siwrnai maethu gyda Maethu Cymru Sir y Fflint. Gall hynny gynnwys cludo plant i sesiynau amser teulu, eu helpu nhw i baratoi’n emosiynol ymlaen llaw neu gefnogi amser teulu lle bo’n briodol. Mae Amy wedi gweld ei hun, sut all gefnogaeth gyson, dawel gael effaith cadarnhaol ar brofiad y plentyn.
rhannodd Amy sut mae cefnogi amser teulu wedi cryfhau ei dealltwriaeth o hunaniaeth y plentyn a’r bobl sy’n bwysig iddyn nhw.
“Rwyf wedi mwynhau cefnogi’r plentyn i gynnal cysylltiadau gyda’r rhai sy’n bwysig iddyn nhw. Rydw i’n goruchwylio amser teulu, ac mae hyn wedi fy ngalluogi i adeiladu perthnasau gwaith cadarnhaol gyda’r teulu biolegol. Cefais hyfforddiant Goruchwylio Amser Teulu, ac rwyf wedi cael fy nghefnogi gan fy Ngweithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol o fewn tîm Maethu Cymru Sir y Fflint. Mae hyn wedi fy ngalluogi i ddeall hunaniaeth y plentyn yn well a’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw, a chredaf ei fod er lles gorau’r plentyn i gael rhywun cyfarwydd i gefnogi amser teulu.”
Gall amser teulu godi nifer o emosiynau ar gyfer plant. Gall gyffro, nerfau, ansicrwydd a gobaith oll fodoli ar yr un pryd, a dyna pam bod cael oedolyn cyfarwydd gyda nhw yn gwneud cymaint o wahaniaeth.
Trwy adeiladu profiadau cadarnhaol a chefnogol o amgylch amser teulu, gall ofalwyr maeth helpu plant i deimlo’n dawelach eu meddwl ac yn fwy diogel cyn, yn ystod ac ar ôl y sesiynau. Hefyd fe all wneud i’r amser teulu deimlo’n fwy naturiol gan ganolbwyntio ar y plentyn, a rhoi gofod i’r plentyn gynnal perthnasau pwysig a chadw cysylltiadau gyda’u synnwyr o hunaniaeth mewn ffodd sy’n teimlo’n ddiogel a chefnogol.
disgrifir effaith y gefnogaeth hon orau gan un o’r plant mae Amy yn gofalu amdanynt, a rannodd bwysigrwydd cael Amy wrth ei hochor yn ystod amser teulu.
“Mae’n braf cael rhywun cyfarwydd i gefnogi amser teulu rhag ofn i unrhyw beth fynd o chwith, ac mae’n rhoi cysur. Ar gyfer fy nheulu biolegol, maent yn gallu cysylltu gyda’r person rydw i’n byw gyda nhw. Mae gan fy rhieni ac Amy gysylltiad da ac maent yn gweithio gyda’i gilydd. Mae fy nheulu biolegol ac Amy yn cyfathrebu, heb fod yn chwithig, mae pawb yn agored ac mae hynny’n fy ngwneud yn hapus.”
eglurodd Amy fod hyd yn oed y gefnogaeth leiaf yn cael effaith hirdymor ar blentyn.
“Rwy’n teimlo bod cysondeb yn allweddol wrth gefnogi plentyn i adeiladu ymddiriedaeth. Trwy fod y person sy’n cefnogi’r plentyn i gael amser teulu, mae hyn yn eu galluogi i ddeall nad ydw i yno i gymryd lle eu teulu biolegol, ond rwyf yno ar y cyd. Rwyf bob amser yn sicrhau fy mod yn cymryd diddordeb i ddod i adnabod y teulu biolegol ac unrhyw un sy’n bwysig i’r plentyn fel y gallent rannu profiadau a phethau pwysig. Yn ogystal â goruchwylio amser teulu, rwyf bob amser yn darparu trafnidiaeth ac yn gweld y sgyrsiau yn y car yn fuddiol i gefnogi diogelwch emosiynol. Mae’r plentyn yn agor allan yn y car, efallai mai diffyg cyswllt llygaid yw’r gyfrinach, ond maent yn tueddu i siarad yn fwy agored am eu hemosiynau.”
Ar gyfer nifer o bobl, mae maethu’n cael ei ystyried fel agor eich cartref i blentyn. Ond gall faethu olygu cefnogi’r plant mewn nifer o wahanol ffyrdd, gan gynnwys eu helpu i gynnal perthnasau gyda’r bobl sy’n bwysig iddyn nhw a’u cefnogi i ddeall eu hunaniaeth eu hunain a’u cysylltiadau teuluol.
i Amy, mae cefnogi plant trwy’r adegau hyn wedi bod yn un o’r agweddau mwyaf boddhaus o faethu
“Rwyf wrth fy modd yn gweld pa mor hapus yw’r plentyn ar ôl rhai o’r sesiynau amser teulu. Rwyf wedi mwynhau gweld y cysylltiadau y mae’r plentyn wedi gallu eu cynnal. Rwyf wir wedi mwynhau fy siwrnai maethu ac rwy’n edrych ymlaen at ddod yn Warcheidwad Arbennig a darparu’r plentyn gyda chynllun ar gyfer dyfodol parhaol, wrth gynnal cysylltiadau gyda’r rhai sy’n bwysig iddynt.”
Mae amser teulu yn bwysig i’r plant, ond gall hefyd helpu’r gofalwyr maeth i ddeall perthnasau, emosiynau a phrofiadau’r plentyn yn well. Trwy gydweithio gyda theuluoedd, gall ofalwyr maeth chwarae rôl bwysig i helpu plant deimlo eu bod yn cael cefnogaeth o bob ochr, a’u helpu i gynnal cysylltiadau i’w hunaniaeth, teulu a hanes personol.
mae Amy’n credu bod cael gofalwyr maeth sy’n barod i gefnogi amser teulu yn gwneud gwahaniaeth mawr i blant a theuluoedd.
“Byddaf yn annog gofalwyr maeth i gefnogi gydag amser teulu gan ei fod yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i bawb sydd ynghlwm. Mae’n ffordd o ofalu am blentyn, sy’n canolbwyntio ar y plentyn ei hun, a’u galluogi i gynnal eu hunaniaeth a chysylltiadau sy’n bwysig iddynt. Rwyf hefyd yn credu ei fod yn galluogi’r teulu biolegol i deimlo’n well o wybod pwy mae eu plentyn yn byw gyda nhw, gan leihau unrhyw densiynau ffyddlondeb.”
Yn Maethu Cymru Sir y Fflint, gwyddwn fod pob gofalwr maeth yn cynnig rhywbeth gwahanol. Gall rai pobl deimlo’n hynod o angerddol am gefnogi plant a theuluoedd yn ystod yr adegau pwysig hyn a helpu plant i gynnal y cysylltiadau gwerthfawr.
Trwy gefnogi amser teulu, gall ofalwyr maeth helpu plant i deimlo sicrwydd, teimlo cysylltiad gyda’u hunaniaeth a’u cefnogi yn ystod rhai o’r adegau pwysicaf yn eu siwrnai.
a allai maethu fod yn rhan o’ch pennod nesaf?
Os ydych yn byw yn Sir y Fflint, cysylltwch â Maethu Cymru Sir y Fflint a bydd aelod o’n tîm ymroddedig yn cysylltu â chi i gael sgwrs gyfeillgar heb rwymedigaeth i’ch helpu i benderfynu a yw maethu yn iawn i chi.
Os ydych yn byw yn unrhyw le arall yng Nghymru, ewch i Maethu Cymru i gael rhagor o wybodaeth ac i ddod o hyd i’ch tîm maethu awdurdod lleol.
Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan i roi'r profiad mwyaf perthnasol i chi trwy gofio'ch dewisiadau ac ailadrodd ymweliadau. Trwy glicio “Derbyn Popeth”, rydych yn cydsynio i ddefnyddio POB cwci. Fodd bynnag, gallwch ymweld â "Gosodiadau Cwcis" i roi caniatâd rheoledig.
Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i wella'ch profiad wrth i chi lywio trwy'r wefan. O'r rhain, mae'r cwcis sy'n cael eu categoreiddio yn ôl yr angen yn cael eu storio ar eich porwr gan eu bod yn hanfodol ar gyfer gweithio swyddogaethau sylfaenol y wefan. Rydym hefyd yn defnyddio cwcis trydydd parti sy'n ein helpu i ddadansoddi a deall sut rydych chi'n defnyddio'r wefan hon. Dim ond gyda'ch caniatâd y bydd y cwcis hyn yn cael eu storio yn eich porwr. Mae gennych hefyd yr opsiwn i optio allan o'r cwcis hyn. Ond gall optio allan o rai o'r cwcis hyn effeithio ar eich profiad pori.