ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir y Fflint?

ydych chi’n gweithio i Gyngor Sir y Fflint ar hyn o bryd ac eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau plant lleol?

 

dewch i faethu gyda ni er mwyn helpu creu dyfodol gwell i’r plant yn eich cymuned.

 

Fel gofalwr maeth gyda Chyngor Sir y Fflint, nid yn unig y byddwch chi’n cael effaith arwyddocaol ar fywydau plant a phobl ifanc sydd angen cartref diogel a llawn cariad, fe welwch chi effaith hefyd ar eich twf a’ch boddhad personol. Fel un o weithwyr y Cyngor, fe gewch chi lu o fuddion a fydd yn golygu y bydd maethu gyda ni yn rhoi mwy fyth o foddhad i chi.

Two adults and two children having fun together outdoors

manteision maethu gyda'r awdurdod lleol

  • Cefnogaeth cyflogwr sy’n Cefnogi Maethu
  • Gostyngiad o 50% yn Nhreth y Cyngor i bob un o’n gofalwyr maeth
  • 5 diwrnod ychwanegol o wyliau yn benodol er dibenion gofal maeth. Golyga hyn y gallwch chi fynd i sesiynau hyfforddi, cyfarfodydd ac apwyntiadau hanfodol sy’n ymwneud a lleoliadau gofal maeth heb orfod poeni am gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith.
  • Cerdyn Blue Light gyda 15,000 o ostyngiadau, o siopau mawr cenedlaethol i fusnesau bach lleol, ar draws categorïau fel gwyliau, ceir, dyddiau allan, ffasiwn, anrhegion, yswiriant, ffonau a llawer mwy
  • Aelodaeth o CADW, gyda mynediad di-ben-draw i dros 130 o fannau hanesyddol
  • Aelodaeth o Rwydwaith Maethu
  • Gweithiwr cefnogi penodedig, gofal estynedig 24/7, sesiynau therapi a chymorth gan ein harloeswyr maethu
Foster carer Caroline wearing black cardigan, black and white blouse.

dywed Caroline, gweithiwr Cyngor Sir y Fflint a gofalwr maeth…

“Manteisiwch ar y cyfle hwn gyda meddwl agored ac agwedd gadarnhaol. Peidiwch ag amau eich gallu i ddilyn gyrfa yng Nghyngor Sir y Fflint a chynnig cefnogaeth i blentyn sy’n derbyn gofal ar yr un pryd.”

I ddysgu mwy am brofiad Caroline, darllenwch ei blog yma: mae caroline yn rhannu ei phrofiad o fod yn weithiwr cyngor sir y fflint ac yn ofalwr maeth

sut i drosglwyddo atom ni

Mae trosglwyddo i ni yn haws nag y gallech feddwl. Does ond angen i chi gysylltu â’n tîm i gael sgwrs gyfeillgar, heb rwymedigaeth.

Byddwn yn siarad am pam rydych am drosglwyddo ac a allwn fodloni eich disgwyliadau maethu.

Pan fyddwch chi’n barod i drosglwyddo, byddwn ni yma i’ch cefnogi drwy gydol y broses a sicrhau bod y cyfnod trosglwyddo mor syml â phosibl.

dewch i sgwrsio am drosglwyddo i maethu cymru sir y fflint

Cyngor Sir y Fflint, County Offices, Chapel Street, Fflint CH6 5BD
Call 01352 701965

Cursor pointer icon Phone ringing icon Open envelope icon