sut mae'n gweithio
y broses
y broses
Rydych chi i gyd ar fin cychwyn ar eich taith, ond pa mor hir mae’r broses faethu yn ei chymryd yn Sir y Fflint, a beth allwch chi ei ddisgwyl?
Gwyliwch ein fideo byr yma sy’n egluro beth yw’r broses o ddod yn ofalwr maeth gyda Maethu Cymru: Pa mor hir mae’r broses faethu’n ei gymryd? | Maethu Cymru

y cam cyntaf
Y cam cyntaf tuag at fod yn ofalwr maeth yw gwneud ymholiad cychwynnol. Cyn gynted ag y byddwch chi’n codi’r ffôn neu’n anfon e-bost atom ni, rydych chi ar y ffordd. Efallai fod y cam hwn yn ymddangos yn fach, ond mae’n anferth. Byddwn yn cymryd eich holl fanylion er mwyn i ni allu dechrau deall eich sefyllfa. Byddwch chi hefyd yn cael pecyn sy’n rhoi mwy o wybodaeth am sut beth yw bod yn ofalwr maeth.

yr ymweliad cartref
Ar ôl i chi gysylltu â ni, byddwn ni’n dechrau’r broses o ddod i’ch adnabod. Byddwn ni’n dechrau drwy gael sgwrs, wedi’i dilyn gan ymweliad cartref naill ai’n bersonol neu drwy alwad fideo. Ar y dechrau, mae’n bwysig ein bod ni’n ffurfio perthynas â chi – er mwyn deall pwy sy’n bwysig i chi a gweld eich cartref. Yna bydd rhywfaint o waith papur cychwynnol i’w wneud.

yr hyfforddiant
Rydyn ni’n cynnig cwrs hyfforddi ar-lein sy’n rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i chi. Mae’r cwrs hwn yn gyfeillgar ac yn anffurfiol, ac mae’n rhoi cyfle i chi gwrdd â thîm Maethu Cymru Sir y Fflint, yn ogystal â gofalwyr eraill yn yr ardal leol.
“fe wnaethon ni gwrdd â llawer o bobl wych rydyn ni bellach yn eu hystyried yn ffrindiau ac rydyn ni’n helpu ac yn cefnogi ein gilydd pan fydd angen hynny arnon ni”
Gofalwr Maeth, Sir y Fflint

yr asesiad
Yn ystod y cam asesu, byddwch chi’n dysgu beth fydd maethu yn ei olygu i chi. Er mai asesiad yw hwn, dydy hwn ddim yn brawf o bell ffordd. Mae’n gyfle i ni archwilio deinameg eich teulu ac yn gyfle i chi a’ch teulu ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi. Mae’r asesiadau, sy’n cael eu cynnal gan weithwyr cymdeithasol medrus, yn ystyried cryfderau a gwendidau eich uned deuluol. Mae’n ymwneud â pharatoi ar gyfer y manteision a’r heriau a allai godi wrth faethu.

y panel
Mae gan bob tîm Maethu Cymru banel, a dyma lle bydd eich asesiad yn cael ei ystyried. Mae’r panel yn cynnwys gweithwyr gofal cymdeithasol gwybodus a phrofiadol yn ogystal ag aelodau annibynnol. Maen nhw’n edrych ar bob darpar ofalwr maeth fel unigolyn.
Dim mater o roi golau coch neu wyrdd i’ch taith yw hyn. Bydd eich cais yn cael ei ystyried o bob ochr, a bydd argymhellion yn cael eu rhoi ynglŷn â beth fyddai’n gweithio orau i chi.

y cytundeb gofal maeth
Ar ôl i’ch asesiad gael ei gymeradwyo, mae’r cytundeb gofal maeth yn nodi beth mae bod yn ofalwr maeth yn ei olygu. O’ch cyfrifoldebau dyddiol i’r cymorth a’r arweiniad ehangach y byddwch yn eu cynnig. Mae’r cytundeb hefyd yn cynnwys sut byddwn ni’n eich cefnogi chi – gyda’n harbenigedd a’n gwasanaethau.