cefnogaeth
mockingbird
Mae’n bleser gennym rannu mai Sir y Fflint yw’r cyntaf a’r unig un i ddarparu clwstwr Mockingbird yng Nghymru! Ers i ni ddechrau yn 2020, rydym wedi meithrin cymuned gariadus gyda thros 50 o ofalwyr maeth anhygoel a 30 o blant gwych ar draws tri chanolbwynt. Yn ddiweddar hefyd, fe wnaethom ddathlu ein pen-blwydd yn 50 oed ym mis Chwefror 2025!

beth yw mockingbird?
Mae Mockingbird yn rhaglen fyd-eang, arloesol ac arobryn, dan arweiniad y Rhwydwaith Maethu yn y DU.
Mae Mockingbird yn ymwneud â chreu teimlad cynnes a theuluol, a’r system gefnogi y byddech chi’n ei chael mewn grŵp agos o ffrindiau a theulu. Y bwriad yw helpu plant, pobl ifanc a theuluoedd maeth gyda meithrin perthnasoedd cadarn, gofalgar o fewn cymuned o chwech i ddeg o gartrefi, sef ‘clwstwr’.
Mae ein gofalwyr maeth Mockingbird ymroddedig, sef ‘gofalwyr lloeren’ yn gweithio ochr yn ochr â thri chartref canolog, sef ‘gofalwyr canolbwynt’. Mae’r gofalwyr canolbwynt yma i ddarparu cefnogaeth o bob math – boed hynny’n gysgu dros nos a chael rhywfaint o hwyl neu seibiant ychwanegol, cymorth yn ystod y dydd, cymorth brys, a chlust i wrando pan fo angen.
-Diagram gan y Rhwydwaith Maethu

cefnogi cyswllt â theulu
Hefyd, mae ein canolbwyntiau yn ei gwneud hi’n rhwydd trefnu ymweliadau teulu, ar gyfer brodyr a chwiorydd o fewn Mockingbird a chysylltiadau gyda rhieni ac aelodau teulu o’r tu allan. Unwaith y byddwch chi’n rhan o Mockingbird, byddwch chi’n rhan o’r teulu bob amser! Gall y rhai sy’n gadael ein gofal a phobl ifanc bob amser ddychwelyd i ymweld â’u ffrindiau, eu gofalwyr ac weithiau eu brodyr a’u chwiorydd, pryd bynnag y dymunant. Mae eu canolbwynt yn cynnig cefnogaeth gyson iddynt, yn union fel cariad teulu a ffrindiau.

hyfforddiant a datblygu
Mae ein gofalwyr maeth yn derbyn hyfforddiant gwych o’r cychwyn cyntaf! Maent yn dysgu sgiliau ymarferol o ran meithrin ac ymlyniad, yn cael syniadau drwy’r cwrs Sgiliau i’w Maethu ac yn mwynhau hyfforddiant lles sy’n cynnwys hyfforddiant hwyliog ar dechnegau anadlu hyd yn oed. Hefyd, cânt fynychu fforymau a digwyddiadau cenedlaethol Mockingbird i rannu a dysgu hyd yn oed mwy!

hwyliog a deniadol
Yn ogystal â hyfforddiant, mae ein gofalwyr canolbwynt wrth eu bodd yn trefnu gweithgareddau grŵp cyffrous! O deithiau i atyniadau lleol a digwyddiadau chwaraeon i deithiau cerdded natur a phartïon hwyliog, cynhelir rhywbeth at ddant y plant a’r oedolion bob amser. Mae’r achlysuron hwyliog hyn yn berffaith ar gyfer datblygu cyfeillgarwch, systemau cefnogi a chyfleoedd dysgu – a hynny oll wrth gael amser gwych gyda’ch gilydd!

sefydlog a chynaliadwy
Yn Mockingbird, credwn ei fod yn fwy na dim ond maethu; mae’n ymwneud â pherthyn. Yma, mae’r plant yn gwneud ffrindiau oes, yn datblygu cysylltiadau arbennig â’u gofalwyr ac yn creu ymdeimlad gwych o sefydlogrwydd, y mae pob un ohonom yn ei drysori yn ein teuluoedd estynedig a gyda’n ffrindiau. Mae Mockingbird yma i helpu plant sy’n derbyn gofal i ail-ddychmygu bywyd teuluol, gan roi dyfodol mwy disglair a llwyddiannus iddynt.

dyma’r canolbwyntiau
Ein 3 Gofalwr Canolbwynt yn Sir y Fflint. Bu i’r teuluoedd ym mhob canolbwynt ddewis enwau newydd ar gyfer eu clwstwr.
Canolbwynt Sue: Calon Hapus
Canolbwynt Cheryl: Tîm A
Canolbwynt Rachel: The Robins
“cefais aros drosodd am ddwy noson, bues yn peintio, mynd â’r cŵn am dro, gwylio ffilm a bwyta cacennau siocled. dw i’n gallu gofyn i’m gofalwr am help. dw i wedi gwneud dau ffrind. cawsom hwyl yn Loggerheads ac fe wnaethom fwynhau picnic a hufen iâ.”